Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Tachwedd 2012
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar Fil Atal Twyll Tai Cymdeithasol
1. Ar 6 Tachwedd 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i gyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Atal Twyll Tai Cymdeithasol at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, er mwyn iddo ystyried y darpariaethau perthnasol a chyflwyno adroddiad arnynt.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 7 Rhagfyr 2012.